Dr Gwyn Williams
Ganed Gwyn Williams yng Nghastell-nedd a chafodd ei fagu yng Nghymoedd Dulais a Tawe, gan fynychu Ysgol Gyfyn Ystalyfera. Daw ei Dad o Flaendulais a’i fam o Gendros yn Abertawe, heb fod yn rhy bell o’r lle y mae’n byw yn awr ym Mrynmill gyda’i wraig a’i blant.
Mae Gwyn wedi credu erioed yn Annibyniaeth i Gymru ac wedi ymgyrchu yn y 90au dros Ie dros Gymru. Mynychodd ysgol feddygol yng Ngholeg y Brenin yn Llundain ac mae bellach yn gweithio yn Ysbyty Singleton yn Abertawe fel offthalmolegydd ymgynghorol, tra hefyd yn Athro Cyswllt Anrhydeddus ym Mhrifysgol Abertawe.
Yn gredwr gydol oes yn y GIG a meddygaeth gymdeithasol mae Gwyn wedi brwydro ar hyd ei yrfa i ddatblygu a chynnal darpariaeth gyhoeddus o wasanaethau gofal iechyd ac nid yw'n gwneud unrhyw waith preifat. O 2020-2023 ef oedd Llywydd yr RCOphth yng Nghymru a chynrychiolodd offthalmoleg mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru.
Mae’n mwynhau ysgrifennu, darllen a heicio ac yn ddiweddar cwblhaodd brosiect hirdymor i gerdded Llwybr Arfordir Cymru, a dechreuodd ei ymosodiad ar Glawdd Offa. Yr unig ffordd i achub ein gwlad o grafangau gwleidyddiaeth San Steffan yw annibyniaeth genedlaethol ac mae Gwyn yn credu bod Pobl Cymru yn fwy na digon cryf i allu ymuno â’r gymuned o genhedloedd rhydd ar sail gyfartal.
Fy Addewid i Abertawe
• Gwrthwynebu preifateiddio iechyd, ac ymgyrchu dros ragor o feddygon, nyrsys a staff meddygol proffesiynol, gan gefnogi ysgol feddygol Abertawe.
• Gweithio dros sicrhau cartref i bawb, mewn gwlad ddwyieithog, gynhwysol a chymdeithasol gyfiawn.
• Gwneud Abertawe'n un o'r dinasoedd glanaf yn Ewrop.
Mae'n bryd am Blaid Cymru - does dim un o'r pleidiau Prydeinig yn poeni am ein gwlad.
• Mae'r Blaid am sicrhau annibyniaeth i'n gwlad
• Mae bellach 18 cenedl annibynol Ewropeaidd sy'n llai na Chymru, y rhan fwyf yn symud ymlaen yn economaidd ac yn ein gadael ni ar ôl.
• Mae Plaid Cymru'n galw am Fargen Werdd Newydd £6bn i ymladd yn erbyn newid hinsawdd ac adfer yr economi.