24 yw Kieran Pritchard ac mae wedi byw yn Gŵyr ar hyd ei fywyd. Astudiodd wleidyddiaeth yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe, cyn ennill gradd dosbarth cyntaf mewn gwleidyddiaeth a Perthnasedd Rhyngwladol o Brifysgol Caerdydd. Bu Kieran yn aelod gweithgar o Blaid Cymru ers sawl blwyddyn ac ef yw ysgrifennydd cangen etholaeth Gŵyr.
Ymrodda Kieran i ymladd dros bolisïau fyddai’n rhoi terfyn ar dlodi a digartrefedd yn ogystal a mentrau gwyrdd fyddai’n hyrwyddo’r economi gylchol yn Gŵyr ac Abertawe. Bydd ei ymgyrch ddi-ildio yn herio hunan fodlonrwydd yr ASau lleol ac yn cynnig dewis amgen i’r ddwy blaid na ellir eu gwahanu a welwn yn tra arglwyddiaethu yn San Steffan