Brwydro Dros Gadw Swyddfa'r Post
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Swyddfa'r Post yn Abertawe'n aros ar agor.
Dywed Y Dr Dai Lloyd, cyn-Aelod Senedd Cymru yn rhanbarth De-Orllewin Cymru, y byddai cau'r Swyddfa'r Post Sgeti'n ergyd sylweddol i'r gymuned.
"Dyma Swyddfa'r Post brysur sy'n rhoi gwasanaeth gwerthfawr i bobl leol, a byddai'r golled annisgwyl hon yn bwrw busnesau lleol yn ogystal â'r llu o bobl eraill sy'n ei defnyddio", meddai Dr Lloyd.
"Dylai Llywodraeth Cymru weithredu'n awr i sicrhau bod y Swyddfa'r Post yn aros ar agor", medd Dr Lloyd mewn llythyr i'r Gweinidog am yr Economi, Vaughan Gething.
"Mae'r bygythiad diweddaraf hwn yn dangos bod rhaid trosglwyddo rheolaeth o'n gwasanaethau post i Gymru, ac nad yw'r fodel o hanner preifateiddio gan San Steffan yn gweithio."
Mae Swyddfa'r Post Sgeti i fod i gau'i drysau Ddydd Llun 27 Chwefror ac ni fydd hi'n ail-agor, yn ôl poster sydd i'w weld yn y ffenest.