Mae'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn achosi niwed difrifol i'n heconomi leol.
Mae'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn achosi niwed difrifol i'n heconomi leol.
Mae Plaid Cymru Abertawe wedi datgan bod tystiolaeth na ellir ei amau bod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn achosi niwed difrifol i'n heconomi leol. Ymddengys bod yr Athro Paul Boyce, is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yn cytuno â'n hasesiad. Oni bai bod llywodraeth Dorïaidd y Deyrnas Unedig yn cymryd camau i ddarparu cyllid a oedd yn arfer dod o'r Undeb Ewropeaidd, gallai hanner cant o brosiectau ymchwil arloesol lleol ddod i ben. Mae'r rhain yn bwysig oherwydd eu bod yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel ar gyfer busnesau lleol, sydd yn ei dro yn cynhyrchu swyddi a chynhyrchiant uwch. Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys ynni solar a datblygu deunyddiau newydd. Bydd colli cyllid ar gyfer y math hwn o ymchwil ôl-raddedig yn arwain at ddiboblogi gallu yn Abertawe. Does ryfedd mai'r Deyrnas Unedig yw'r unig economi fawr sy'n dal i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig. Ydy pobl Cymru wir eisiau aros yn y twll hwn o bolisïau economaidd di-feddwl, di-ddychymyg ac anfoesol?