Mae'r arweinydd Llafur Syr Keir Starmer wedi gadael Cymru i lawr, medd ymgeisydd Plaid Cymru dros Orllewin Abertawe, y Dr Gwyn Williams.
Cafodd Syr Keir gyfle euraidd yn ystod ei ymweliad byr â Chymru i addo'r adnoddau sydd angen i'n gwasanaethau allweddol, gan gynnwys iechyd.
"Yn lle hynny, mae'n amlwg y bydd llywodraeth Llafur yn glynu wrth gynlluniau'r Torïaid a pharhau i wrthod y biliynau o bunnoedd sy'n ddyledus i ni, medd Dr Williams.
"Mae dirfawr angen pleidlais gref i Blaid Cymru i sicrhau bod llais ein gwlad i'w glywed yn glir yn Llundain".