Porth Talbot - Plaid Cymru'n Galw Am Wladoli
Mae Plaid Cymru wedi galw ar lywodraeth Llundain i ystyried gwladoli'r gwaith dur ym Mhorth Talbot.
Dywed llefarydd y Blaid yn Abertawe, y Dr Gwyn Williams y byddai colli miloedd o swyddi'n yn achosi dirwasgiad sylweddol i'r economi rhanbarthol yn Ne-Orllewin Cymru.
"Mae angen i lywodraeth San Steffan fabwysiadu strategaeth fwy radical, gan gynnwys gwladoli am gyfnod i sicrhau symudiad trefnus at ddulliau gwyrddach o gynhyrchu dur ", Dr Williams said.
Ystyriodd gweinidogion Prydeinig y cynllun hwn o ddifrif yn 2016 a bellach rhaid cysidro pob ffordd o barhau i gynhyrchu dur yn y gwledydd hyn, meddai mewn llythyr at y Prif Weinidog Rishi Sunak.
Llun: Dr Gwyn Williams Dydd Gwener 19 Ionawr 2023
Gyda chyfarchion: Dafydd Williams 07557 307667