November 28, 2025

Y Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Llafur Cymru

Mae’r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Llafur Cymru wedi cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, gweithredu radical i fynd i'r afael ag ail gartref a'r argyfwng tai, gwarchod buddiannau ffermwyr, cyflwyno gofal plant am ddim i blant dwy oed a gosod y ffordd ymlaen ar Ddiwygio'r Senedd i gryfhau ein democratiaeth ac ehangu ein Senedd. 

Wrth fynd i mewn i ail flwyddyn y Cytundeb Cydweithio, mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen at y cerrig milltir arwyddocaol nesaf y mae'n rhaid i ni eu cyrraedd er mwyn symud Cymru ymlaen – gan gynnwys ynni a harneisio ein hadnoddau naturiol, cyflymu darparu tai cymdeithasol, papur gwyn eiddo a rhentu teg, y cyfansoddiad, darlledu, gofal cymdeithasol a chamau breision i gryfhau'r Gymraeg drwy addysg.